Ychydig o’n hadolygiadau
Dyma fy mhrofiad cyntaf o win pefriog o Gymru o Winllan Hebron, ond nid hwn fydd y tro olaf. Gwinllan gyffrous ac addawol iawn.
Davy Zyw, arbenigwr byd-eang ar win pefriog, prynwr gwin Berry Bros. & Rudd, awdur “I Love Champagne” a “101 Champagnes & Sparkling Wines to Drink Before You Die” ac yn sommelier yn bwyty 2 seren Michelin Le Gavroche ym Mayfair.
Ydy, mae Cymru’n gwneud gwin – ac maen nhw’n rhai o’r poteli gorau yn y wlad
Susy Atkins (darllen yr erthygl lawn)
Award-winning wine and drinks writer, presenter and broadcaster and drinks editor
Mehefin 2021
Mae Gwinllan Conwy nid yn unig yn cynhyrchu gwin o Gymru sydd wedi ennill gwobrau, ond mae hefyd yn adrodd y stori i weddill y byd.
Kelsey Knight (darllen yr erthygl lawn)
Mehefin 2021
Gorffennaf 2021 (darllen yr erthygl lawn)
Gwinllan White Castle Sir Fynwy yn ennill y brif wobr yn erbyn cystadleuwyr ym mhedwar ban byd mewn cystadleuaeth blasu dall fawreddog
Mae i’r gwin gymeriad ffrwyth ceirios coch hyfryd. Mae’n win ffres a chain. Mae’n flasus ac mae’r ffaith ei fod yn dod o Gymru yn fonws.
Zoe Wood
Mai 2022 (darllen yr erthygl lawn)
Mae Gwinllan White Castle, sydd yn y Fenni, wedi cael dwy wobr arian yn Her Gwin Rhyngwladol 2022 – un am ei gwin gwyn gwyn pefriog yn 2018 ac un ar gyfer gwin Pinot Noir Précoce Reserve o fri yn 2019.
Llwyddodd eu gwin Pinot Noir Précoce i ennill gwobr Arian yn Her Gwin Rhyngwladol 2018, ac yn ogystal â hyn fe wnaethant ennill gwobr Aur yng ngwobrau gwin y byd Decanter – y tro cyntaf i Gymru ennill y wobr.
Awst 2020 (darllen yr erthygl lawn)
Mae Ancre Hill ar flaen y gad o ran gwin modern Cymreig” Rose Murray Brown MW (The Scotsman, 2020)
Rose Murray Brown MW
Mae Gwinllan Velfrey, ger Arberth, wedi’i lleoli pum milltir o arfordir hyfryd Sir Benfro. Gwin pefriog yw’r cyntaf i wisgo eu label llwyd ac aur. Mae Velfrey wedi cyfuno Seyval Blanc gyda Pinot Noir a Chardonnay i gynhyrchu gwin euraidd gyda mousse bywiog ac arogl sy’n neidio allan o’r gwydr, wyneb sy’n llawn ffrwythau sitrws hyfryd...
Ian Ness (darllen yr erthygl lawn)
Ebrill 2021
Y Trip Diwrnod Newydd
Mae’r newyddiadurwraig Emily Sargent wedi tynnu sylw at Winllan White Castle (Y Fenni) a Gwinllan Glyndŵr (Bro Morgannwg) fel dau o’r 20 o winllannoedd gorau yn y DU i ymweld â nhw – “diwrnod allan i oedolion a gwydraid (neu ddau)
(darllen yr erthygl lawn)
...yn 2019 cefais gyfle i flasu gwin pefriog (Blanc de Noirs) a wnaed gan gynhyrchwr gwin biodynamig, Ancre Hill, ac roedd yn wirioneddol wych...
Victoria Moore
Yn y pum mlynedd diwethaf, mae gwinllannoedd yng Nghymru wedi ennill dwsinau o wobrau am eu gwinoedd gwyn, rhosliw a phefriog ffres ac ysgafn
Matthew Wilson (darllen yr erthygl lawn)
Dydd Sul 22 Mehefin 2020
Mae mwy na 500 o winllannoedd masnachol yng Nghymru a Lloegr (mae hi’n dal yn rhy oer i dyfu grawnwin yn yr Alban a Gogledd Iwerddon), felly rydym ni wedi dewis rhai o’r goreuon lle gallwch chi’n fuan fwynhau sesiwn blasu, prynu cês neu dri, a hyd yn oed aros a gwneud penwythnos ohoni.
Y gorau o’r gwinwydd: Gyda gwinoedd sauvignon a pinot noir Prydain am fod yn boblogaidd dros yr haf, dyma ein hawgrymiadau ni ar gyfer yr ystadau gorau i yfed, bwyta ac ymlacio
GWIN: Mae mynyddoedd Eryri’n gefndir godidog i Winllan Conwy (gwinllanconwy.co.uk), lle cafodd y gwinwydd eu dewis yn ofalus i gyd-fynd â'r amodau hinsoddol caled. Mae pob un o’r pum gwin a gynhyrchir yma yn cynnwys patrwm ar y label sy'n deillio o’r adeiladau Tuduraidd yng Nghonwy gerllaw. Mae gwin coch Rondo 2018 £18 yn cyd-fynd yn dda â chig oen Cymreig neu gawl.
BWYTA: Gwinllan White Castle (whitecastlevineyard.com), yng nghefn gwlad bryniog hardd Sir Fynwy, lle daeth prosiect ymddeoliad yn swydd amser llawn ac yn fusnes llwyddiannus i’r cyn-bostman Robb Merchant a’i wraig Nicola. Yma y cynhyrchwyd gwin cadarn cyntaf Cymru, a gafodd ei alw’n 1581 ar ôl sgubor Duduraidd restredig yn y winllan, ochr yn ochr â’r gwinoedd coch, gwyn a rhosliw. Mae platiau caws, cig a physgod yn cael eu gweini yng nghaffi’r Cellar Door am £12 i £15 y pen.
YMLACIO: Mae Llanerch, sydd wedi’i lleoli 15 munud ar droed o Gastell tyredog Hensol, yn westy, yn winllan, yn fwyty ac yn ysgol goginio. Mae wedi’i lleoli naw milltir o Gastell Coch. Canolbwynt y safle yw ffermdy gwyngalchog, ac mae ei winoedd Cariad gwyn, rhosliw a phefriog yn destament i gryfder y gwinoedd yng Nghymru heddiw. Mae ystafelloedd dwbl yn y ffermdy neu o amgylch y buarth gerllaw yn costio o £95 y noson (llanerch.co.uk).
Tachwedd 2019
Rhowch winoedd pefriog Lloegr o’r neilltu, mae digon o winoedd sydd wedi ennill gwobrau ar gael yng Nghymru hefyd, o Ynys Môn i fryniau Sir Fynwy, meddai Terry Kirby (darllen yr erthygl lawn)
Yn ystod ymweliad â gwinllan White Castle, mae’r Siegerrebe 2018 a enillodd y wobr efydd yng Ngwobrau Gwin Cymru yn win persawrus sy'n debyg i viognier, gyda llawer o flasau blodau a mêl, ond yn sych ac yn berffaith gyda phob math o bysgod a physgod cregyn.
Ger y ffin â Lloegr, gallwch ddod o hyd i Winllan Montgomery a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Gwin Cymru yn ddiweddar. Enillodd y Montgomery Rondo 2018 wobr am y gwin coch gorau – mae’n win braf a blasus, a fyddai’n apelio i’r rhai sy'n hoffi beaujolais neu winoedd coch ysgafnach o Dde Ffrainc, a byddai’n cyd-fynd yn dda â charcuterie a bwydydd o ardal Môr y Canoldir
Mawrth 2020
Mae’r White Castle Pinot Noir 2017 yn arbennig o dda
Helen McGinn (watch video)
Mehefin 2016
Glyndŵr Red (darllen yr erthygl lawn)
Glyndŵr Red (darllen yr erthygl lawn) Mae gwin coch cartref o Gymru yn beth prin. Ar ôl cynaeafu’r grawnwin coch o winwydd aeddfed 25 oed, mae'r gwin rhyfeddol hwn yn cael ei aeddfedu’n raddol mewn barilau derw newydd o America.
A'r canlyniad yw gwin coch cymhleth gyda blas ffrwythau.
Mehefin 2018
Y Winllan Fwyaf Poblogaidd yn y DU
Mae Gwinllan Glyndŵr wedi ennill gwobr Y Winllan Fwyaf Poblogaidd yn y DU yn 2018.
Roedd y winllan, sydd yn Llanfleiddan, yn fuddugol yn erbyn cystadleuaeth gref gan naw cystadleuydd arall, a chafodd ei henwi yn hoff winllan y DU mewn cystadleuaeth ar-lein a drefnwyd gan TripAdvisor.
Cyhoeddwyd mai Gwinllan Glyndŵr oedd yr enillydd, gyda 53 y cant o’r bleidlais.