Cliciwch ar y bwnsiad o rawnwin ar draws y map i gael gwybod mwy am y gwinllannoedd ym mhob lleoliad.
Gwarchodir dilysrwydd nifer o gynnyrch bwyd a diod unigryw i Gymru dan Gynllun Enw Bwyd a Warchodir gan yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN). Mae hyn yn helpu Cymru i sicrhau bod y defnyddiwr yn gwybod ei fod yn cael y cynnyrch dilys, gyda phrawf o’i dreftadaeth a’i draddodiad Cymreig. Mae gwin ar restr gynyddol o enwau bwyd Cymreig sy'n cael eu gwarchod. Os ydych chi’n prynu cynnyrch ag arno label Welsh Quality Wine, neu Welsh Regional Wine, gallwch edrych ymlaen at gynnyrch sydd wedi cael ei gynhyrchu, ei brosesu a’i baratoi mewn un ardal benodol.
Dysgwch fwy am PGI yma neu am PDO yma.
Mae gan ein gwinllannoedd hefyd gynnyrch â’r label Product of Wales. Gallwch fod yn sicr bod y gwinoedd hyn hefyd wedi cael eu cynhyrchu o rawnwin sydd wedi cael eu tyfu yng Nghymru a’u prosesu mewn gwindai cymeradwy. Os hoffech chi gael gwybod mwy wrth ystyried beth i'w brynu, holwch ein cynhyrchwyr!