Croeso gan Oz Clarke
Mwya’n y byd rwy’n meddwl am win Cymru, mwya’n y byd rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i chi ymweld i’w ddeall yn iawn. Dydy Cymru ddim fel Lloegr. Dydy hi ddim fel Iwerddon na’r Alban. Mae’n lle gwirioneddol wahanol, gydag amodau gwahanol a gwahanol fathau o bobl. Ac maen nhw i gyd yn gweithio law yn llaw i wneud gwahanol fathau o win.
Rwy’n cyfaddef fy mod yn eithaf negyddol i ddechrau wrth feddwl p'un a allai Cymru fyth gynhyrchu gwin diddorol. Roeddwn i’n credu ei bod hi’n rhy wlyb - glaw parhaus yn dod o’r Iwerydd ac yn cael ei ollwng ar y tir uchel cyntaf mae’r cymylau'n dod ar ei draws - ie, Cymru. Cymru sy'n fynyddoedd yn bennaf. Gwlyb. A gwyntog. O Flaenau Gwent i Fannau Brycheiniog, i Bumlumon a’r Wyddfa ei hun. Onid mynyddoedd gwlyb a gwyntog sydd yma’n bennaf? Wel, na. Ond mae’r mynyddoedd hynny’n andros o bwysig.
MAEN nhw’n wlyb ac yn wyntog. Mae hynny’n golygu bod Dwyrain Cymru i gyd yn elwa ar eu hamddiffyniad, yn ogystal ag ardaloedd fel Dyffryn Conwy a Dinbych yn y gogledd. Mae yna gysgodion glaw go iawn yng Nghymru, yn union fel y mae mewn mannau fel Bwrgwyn ac Ynys y De yn Seland Newydd. Ac mae’r rhain yn cael eu defnyddio i bwrpas buddiol yn fwy aml erbyn hyn.
Ac mae rhannau sylweddol o’r wlad sy’n addas ar gyfer gwinwydd hyd yn oed heb gymorth y mynyddoedd. Mae Bro Morgannwg yn gweld rhai o’r tymereddau cymedrig cyfartalog uchaf yn y Deyrnas Unedig. Cafodd Llandudno ei datblygu’n gyrchfan gwyliau yn ystod oes Fictoria am ei bod yn cynnig rhai o’r amodau mwyaf tymherus ym Mhrydain.
Ond mae hyn oll yn safle-benodol iawn. Rydw i wedi sefyll gyda thyfwr yng Nghonwy ymysg ei winwydd Chardonnay ffyniannus ac wedi gwrando arno wrth iddo ddangos pa mor gyfyngedig a manwl oedd yr amodau a oedd yn ei alluogi i aeddfedu ei gnydau. Rwyf wedi sefyll ar dir o Cabernet Franc sy'n wynebu rhywfaint i’r gogledd ger y Fenni ac wedi cael eglurhad o bob agwedd ar bridd a haul, glaw a gwynt i ddangos mai dim ond y darn bach hwn o’r tir a allai aeddfedu ei winwydd Cabernet. Penodol? Yn bendant.
A dyma un o bleserau a heriau gwin Cymru. Allwch chi ddim dewis sir allan o het - fel y mae rhai gwneuthurwyr gwin yn Lloegr fel petaent yn ei wneud - a dweud - o, fydd hwn yn berffaith am winllan. Mae’n rhaid i chi fod yn llawer mwy penodol. Mae’n rhaid i chi fynd ati i wneud cyfrifiadau manwl o ran ble y gallwch gael cnwd, ble y bydd eich grawnwin yn aeddfedu. Wrth gwrs bod yn rhaid gwneud hynny. Mae Cymru yn ardal win mor ymylol, sy’n creu problemau, yn ogystal â llawer o gyffro.
Yn gyffredinol, mae’r gwinoedd mwyaf difyr, y mwyaf deniadol, a’r rhai sy’n torri syched orau yn bendant, yn cael eu gwneud ar derfyn gallu’r math hwnnw o rawnwin i aeddfedu. Byddai hynny’n disgrifio’r rhan fwyaf o winllannoedd yng Nghymru heddiw.
Ond mae bod ar y terfyn yn effeithio gwahanol fathau o rawnwin mewn gwahanol ffyrdd, a dylid dathlu pob math o rawnwin am yr hyn y gall ei gynnig, ac ni ddylid byth ymddiheuro amdano. Gadewch i ni ystyried gwin Bwrgwyn am eiliad. Dros y canrifoedd, penderfynwyd yn raddol mai Pinot Noir a Chardonnay yw’r grawnwin mwyaf addas i’w tyfu. Ond peidiwch byth â cheisio canmol cynhyrchwr gwin Bwrgwyn ar ei flasau Pinot Noir neu Chardonnay. "Volnay dw i’n ei gynhyrchu", neu "Dw i’n cynhyrchu Meursault" fydd yr ymateb llawn dirmyg a gewch chi. Yr unig beth mae Pinot Noir neu Chardonnay wedi’i brofi dros amser yw mai’r rhain yw’r cyfrwng mwyaf addas i fynegi cymeriad y tir lle saif y winllan.
Mae’n ddyddiau cynnar i Gymru, ond dyma lle mae eich Cymreictod. Gall rhai ohonoch aeddfedu’r Pinot, rhai ohonoch y Chardonnay, mae un enaid dewr wedi llwyddo gyda Cabernet Franc, tra bo eraill yn eich plith yn defnyddio Rondo a Regent, Solaris, Phoenix ac Orion. Bydd pethau’n newid wrth i’r hinsawdd newid, ond ar hyn o bryd dyma’r grawnwin a fydd yn eich helpu i fynegi eich darn penodol o dir, eich gweledigaeth benodol o ran blas, eich Cymreictod.
‘Iechyd Da’ i chi i gyd ...
Oz Clarke, Chwefror 2024