Dyfodol disglair i win o Gymru
Ym mis Rhagfyr 2022, lansiwyd strategaeth, y cyntaf o'i math, i roi ffocws i ddyfodol diwydiant gwin Cymru dros y deuddeng mlynedd nesaf, a chynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith, i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035.
Wedi'i datblygu ar adeg allweddol i winllannoedd Cymru, â chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, cynlluniwyd y strategaeth dan arweiniad y diwydiant i sicrhau bod Cymru'n adeiladu ar ei henw da sy'n dod i'r amlwg fel cynhyrchydd arbrofol gwinoedd amrywiol, yn dilyn rhai llwyddiannau trawiadol ym mlynyddoedd diweddar a enillodd nifer o wobrau rhyngwladol.
Roedd strategaeth newydd y diwydiant, a lansiwyd yng Ngwesty'r Gyfnewidfa Lo, yn dathlu llwyddiannau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys gwerthiant gwin o Gymru a gynyddodd, ochr yn ochr â gwin o Loegr, gan 31.3% i 9.3 miliwn o boteli yn 2021. Gyda'r strategaeth ar waith fel fframwaith ar gyfer twf, bydd Cymru'n parhau i greu ei llwybr ei hun.
Bellach mae dros 30 o winllannoedd yn gweithredu ledled y wlad, ac mae statws Cymru fel cynhyrchydd arloesol gwin o ansawdd uchel wedi mynd o nerth i nerth oherwydd perchnogion gwinllannoedd arloesol, y ffrwythau gwych a dyfir yn ogystal â microhinsawdd a thirwedd unigryw Cymru.
Ceir llawer o debygrwydd i Seland Newydd, sydd wedi mynd o gynhyrchu ar raddfa fach i enwogrwydd rhyngwladol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, gan oresgyn heriau tebyg o ran yr hinsawdd a'r dirwedd.
Dengys ymchwil YouGov fod 87% o bobl sy'n mynd ar wyliau yn y DU yn credu bod eu profiadau bwyd a diod yn bwysig pan fyddant ar wyliau, a 62% yn credu ei bod yn bwysig bod y bwyd a'r diod a ddarperir yn dod o ffynonellau lleol, bydd gwinllannoedd Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y cysylltiad rhwng bwyd a gwin Cymru, ac yn cryfhau eu perthynas â'r sector twristiaeth.
Yn ogystal â thwristiaeth, mae'r strategaeth yn manylu ar bedair colofn strategol arall fel rhai sy’n paratoi'r dyfodol ar gyfer gwin Cymreig – gan adeiladu presenoldeb ar-lein, trefniadaeth, sgiliau, a hunaniaeth a brand cryf ar gyfer gwin Cymreig.
Felly, p'un a ydych chi'n gyfarwydd iawn â gwin neu'n newydd-ddyfodiad chwilfrydig, ni fyddwch am golli'r daith gyffrous y mae diwydiant gwin Cymru yn cychwyn arni. Paratowch i ddarganfod y don newydd o win Cymreig ac ymunwch â ni, wrth i ni godi gwydraid i ddyfodol cyffrous diwydiant gwin Cymru!